Amdanom Ni

Y Dechrau

Mae RainbowBiz CIC yn sefydliad corfforedig ers 23 Ionawr 2015, gyda’r Cyfarwyddwyr sylfaenu, Sue Oliver a Sarah Way. Dros y blynyddoedd, mae gwirfoddolwyr eraill wedi ymuno â nhw ar y Bwrdd i gefnogi’r fenter gymdeithasol drwy wahanol gyfnodau. Sefydlwyd y Fenter Gymdeithasol i hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.

 

Garddio’r Glannau oedd y prosiect cymunedol cyntaf a gychwynnodd ar y dechrau un. Fe ddechreuon ni gydag un llain rhandir bach ond yn fuan iawn fe dyfon ni’n rhy fawr i’r lle pan ddaeth mwy a mwy o bobl i gymryd rhan. Sefydlwyd y prosiect i leihau unigedd yn yr ardal a chreu amgylchedd diogel a chroesawgar ble gallai pobl o bob cefndir a gallu ddod ynghyd.

 

Er mwyn parhau’n gynaliadwy ac yn foesegol, agorodd RainbowBiz yr Hippy Shop yn yr Wyddgrug i werthu rhoddion a dillad Masnach Deg er mwyn cynhyrchu refeniw drwy gydol y flwyddyn, sy’n cael ei ailfuddsoddi yn y Fenter Gymdeithasol.

Jordan Gray

Hybu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae’r Fenter Gymdeithasol, RainbowBiz CIC yn eistedd ar nifer o baneli statudol a’r sector gwirfoddol ac mae ganddi gynrychiolaeth ar nifer o gyrff cyhoeddus eraill. Mae hyn wedi cynnwys rhoi cyngor i Newyddion ITV Cymru ar eu panel Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Gogledd Cymru, yn ogystal â Phanel LGBTQ Heddlu Gogledd Cymru. Yn ddiweddar buom yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ar Argyfwng Covid-19 a sut gallan nhw siapio dyfodol sector manwerthu a busnes Sir y Fflint.

Jordan Gray

Hybu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae’r Fenter Gymdeithasol, RainbowBiz CIC yn eistedd ar nifer o baneli statudol a’r sector gwirfoddol ac mae ganddi gynrychiolaeth ar nifer o gyrff cyhoeddus eraill. Mae hyn wedi cynnwys rhoi cyngor i Newyddion ITV Cymru ar eu panel Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Gogledd Cymru, yn ogystal â Phanel LGBTQ Heddlu Gogledd Cymru. Yn ddiweddar buom yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ar Argyfwng Covid-19 a sut gallan nhw siapio dyfodol sector manwerthu a busnes Sir y Fflint.

Yr Hippy Shop a Phrosiectau

Mae Hippy Shop RainbowBiz, sydd yn yr Wyddgrug, Gogledd Cymru, yn cynnal y prosiectau y mae’r sefydliad yn eu rhedeg bob wythnos. Mae’r holl elw yn uniongyrchol gefnogi a galluogi cymunedau sydd wedi’u hymyleiddio i ffynnu yn Sir y Fflint. Ymysg y digwyddiadau cymdeithasol a’r prosiectau wythnosol mae prosiect garddio cymunedol Garddio’r Glannau, a grŵp Cerdded Er Lles, sy’n cyfarfod bob wythnos, i leihau effaith unigedd ac i hybu cynhwysiant cymdeithasol mewn grwpiau lleiafrifol a grwpiau wedi’u hymyleiddio, rhai ohonynt yn byw mewn ardaloedd difreintiedig yn Sir y Fflint.

Hippy Shop Clothing

Cyfarfod â’r Tîm

Sarah Way

Sarah Way

Aelod creadigol a brwdfrydig o’r tîm sydd â diddordeb mewn lles.

Sue Oliver

Sue Oliver

Aelod o’r tîm â gwên barod, sydd wrth ei bodd yn gweithio gefn llwyfan ac yn creu gwefannau.

Daz Cook

Daz Cook

Dyn arbennig, dyn y bobl, sydd wedi gwirioni ar brosiect Garddio’r Glannau a bywyd gwyllt.

Fozzy

Fozzy Forrester

Ein dewin digidol sydd wirioneddol wrth ei fodd yn helpu pobl, does dim byd yn ormod o drafferth.

Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones PC

Roedd RainbowBiz CIC wedi gwirioni pan ddaeth yr Arglwydd Barry Jones aton ni i gynnig ei wasanaethau fel Noddwr. Ers y dyddiau cynnar iawn, mae’r Arglwydd Barry wedi cefnogi’n menter gymdeithasol drwy gymryd rhan yn llawer o’n digwyddiadau cymdeithasol a’n digwyddiadau i wirfoddolwyr.

 

Mae’r Arglwydd Barry yn cefnogi’r Hippy Shop yn yr Wyddgrug ac wedi mynychu nifer o achlysuron pwysig i roi ei anerchiadau poblogaidd. Mae’r holl staff a gwirfoddolwyr yn wir fwynhau treulio amser gyda’n Noddwr, yr Arglwydd Barry Jones a’r Arglwyddes Janet Jones.

Lord Barry Jones RainbowBiz Patron

Y Bobl a Gefnogwn

Fel sefydliad sy’n rhoi gwerth ar y bobl a gefnogwn, mae RainbowBiz CIC yn aml yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol, sesiynau hyfforddi a digwyddiadau cymdeithasol ar achlysuron arbennig drwy gydol y flwyddyn, ac mae hynny’n hybu cydlyniad cymunedol ac yn rhoi synnwyr o le a pherthyn i bawb yn y sefydliad.