RainbowBiz CIC
Menter Gymdeithasol yn Sir y Fflint
Menter gymdeithasol ydy RainbowBiz CIC wedi’i lleoli yn Sir y Fflint, Gogledd Cymru. Rydyn ni’n cefnogi rhai o aelodau’r gymuned yn Sir y Fflint sydd wedi’u hymyleiddio fwyaf. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy alluogi a grymuso’n gwirfoddolwyr i ddatblygu sgiliau, drwy ddathlu pobl, a gwneud pethau sy’n wahanol ac yn ddiddorol gyda’r gymuned leol.

RainbowBiz CIC
Menter Gymdeithasol yn Sir y Fflint
Menter gymdeithasol ydy RainbowBiz CIC wedi’i lleoli yn Sir y Fflint, Gogledd Cymru. Rydyn ni’n cefnogi rhai o aelodau’r gymuned yn Sir y Fflint sydd wedi’u hymyleiddio fwyaf. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy alluogi a grymuso’n gwirfoddolwyr i ddatblygu sgiliau, drwy ddathlu pobl, a gwneud pethau sy’n wahanol ac yn ddiddorol gyda’r gymuned leol.
Cymryd Rhan
Ymunwch â’n Prosiectau

Cerdded Er Lles
Grŵp cerdded wythnosol sy’n gwbl agored i bawb ei fynychu, gan gynnwys y rhai sy’n defnyddio cymorth symud, yn cynnwys cadeiriau olwyn a sgwteri. Ymunwch â ni ar deithiau cerdded bendigedig o amgylch ardal Glannau Dyfrdwy ac i ymweld â rhai o’n llefydd agored hyfryd. Bydd lluniaeth ar gael ond gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer yr awyr agored.
Cost £5 y pen, am ddim i ofalwyr.
Yn cyfarfod bob dydd Mawrth am 10am tan 12pm.

Garddio’r Glannau
Mae’r grŵp hwn yn cyfarfod yn yr awyr agored yn Rhandiroedd Mill Lane y tu ôl i Ganolfan Gwaith Shotton rhwng mis Mawrth a Hydref, ac yn Queensferry rhwng mis Tachwedd a Chwefror. Mae’r prosiect garddio cymunedol wythnosol hwn yn cynnig sgiliau garddio sylfaenol, sgiliau bywyd a’r cyfle i wneud ffrindiau newydd. Yn bwysicaf oll, mae’r prosiect yn cynnig lle diogel i gyfarfod â phobl o’r un anian â chi.
Cost £5 y pen, am ddim i ofalwyr.
Yn cyfarfod bob dydd Mawrth rhwng 1pm a 3pm.

Nos Wener Gymdeithasol Ar-lein
Criw o bobl o’r un anian o bob cwr o’r byd yn dod at ei gilydd ar-lein drwy Zoom. Mae’r digwyddiad cymdeithasol wythnosol hwn yn cynnwys cwis, sgwrs a llawer o hwyl.

Digwyddiadau Cymdeithasol i Wirfoddolwyr
Drwy gydol y flwyddyn rydyn ni’n cynnal nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi. Yn y gorffennol cawsom barti Nadolig poblogaidd, gyda gemau, disgo a charioci, a bwyd bendigedig wrth gwrs. Rydyn ni hefyd wedi cynnal nifer o bartïon gwisg ffansi ac mae digwyddiad Calan Gaeaf yn un o’r ffefrynnau, pan fydd pawb yn rhoi gwisg ffansi.

Cefnogwch Ein Prosiectau
Pan fyddwch chi’n prynu unrhyw beth o’n siop ar-lein, bydd 100% o’r holl elw yn cael ei ailfuddsoddi yn ein menter gymdeithasol.

Cefnogwch Ein Prosiectau
Pan fyddwch chi’n prynu unrhyw beth o’n siop ar-lein, bydd 100% o’r holl elw yn cael ei ailfuddsoddi yn ein menter gymdeithasol.
Y Bobl a Gefnogwn
Fel sefydliad sy’n rhoi gwerth ar y bobl a gefnogwn, mae RainbowBiz CIC yn aml yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol, sesiynau hyfforddi a digwyddiadau cymdeithasol ar achlysuron arbennig drwy gydol y flwyddyn, ac mae hynny’n hybu cydlyniad cymunedol ac yn rhoi synnwyr o le a pherthyn i bawb yn y sefydliad.
Digwyddiadau i Ddod
Cymryd Rhan
Mae RainbowBiz CIC, sy’n Fenter Gymdeithasol yn Sir y Fflint, bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr ac unigolion yn y gymuned sydd ag amrywiaeth o sgiliau er mwyn sicrhau bod tîm cynaliadwy o bobl o’r un anian sydd eisiau rhannu syniadau, rhedeg gwahanol brosiectau a chodi arian er lles y gymuned leol.
Cysylltwch â ni os hoffech chi gymryd rhan yn unrhyw ran o’n gwaith.