Nos Wener Gymdeithasol

Pwy Ydyn Ni?

 

Mae Nos Wener Gymdeithasol Ar-lein yn griw o bobl o’r un anian o bob cwr o’r byd. Mae rhai o’r bobl sy’n dod yn rhan o’n prosiectau presennol wyneb-yn-wyneb ac mae eraill wedi cysylltu â ni ar-lein. Yn aml, byddwn ni’n cymryd rhan mewn cwis poblogaidd iawn sydd fel arfer wedi’i deilwra i ddiddordebau a gwybodaeth ein cyfranogwyr. O bryd i’w gilydd rydyn ni wedi cael “partïon” ar-lein hefyd, am ein bod ni’n hoffi dathlu adegau arbennig o’r flwyddyn.

 

Mae pawb yno er mwyn gwneud ffrindiau a chael hwyl gyda’i gilydd.

Friday Online Social Zoom
Cymryd Rhan

Ble Ydyn Ni?

Ar-lein Drwy Zoom

I ymuno â’r digwyddiad ar-lein, dilynwch y ddolen hon:

 

Ymunwch â ni ar Zoom

 

ID y Cyfarfod: 905 566 491

Yn cyfarfod bob nos Wener ar-lein rhwng 7pm a 9pm.

Am ddim, croesewir cyfraniadau ariannol yma:

 

Cyfrannwch

Gogledd Cymru

Yr Alban

Manceinion

Ffrainc

Norwy

Dysgwch Fwy

Weithiau gallwch deimlo ychydig yn anesmwyth wrth ymuno â grŵp newydd, felly mae croeso i chi ein ffonio ni i sgwrsio am beth rydyn ni’n wneud yn ystod ein digwyddiadau cymdeithasol ar-lein gyda’n gwesteiwr penigamp, Fozzy.

 

Rhowch ganiad i Sarah ar 07759 753 473 am sgwrs neu cysylltwch.

Y Cyfryngau Cymdeithasol

Rydyn ni’n rhoi diweddariadau rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol. Chwiliwch amdanoch eich hunain mewn llun, neu gwnewch sylw neu rannu’n postiadau gyda’ch ffrindiau i helpu i ledaenu’r gair am ein digwyddiadau cymdeithasol ar-lein. Digwyddiad cymdeithasol ar-lein sy’n croesawu pawb.

 

Ewch i’n Tudalen Facebook yma i weld lluniau a digwyddiadau am y prosiect cymdeithasol hwn.

Digwyddiadau i Ddod

Cymryd Rhan

Mae RainbowBiz CIC, sy’n Fenter Gymdeithasol yn Sir y Fflint, bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr ac unigolion yn y gymuned sydd ag amrywiaeth o sgiliau er mwyn sicrhau bod tîm cynaliadwy o bobl o’r un anian sydd eisiau rhannu syniadau, rhedeg gwahanol brosiectau a chodi arian er lles y gymuned leol.

Cysylltwch â ni os hoffech chi gymryd rhan yn unrhyw ran o’n gwaith.