Ymwelwch â Hippy Shop RainbowBiz
Dewch am dro i’n Hippy Shop yn
8 Canolfan Siopa Daniel Owen, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1AP
Diweddariad Covid-19 – Rydyn ni wedi rhoi amser i sicrhau bod ein siop yn ddiogel o ran Covid, yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth. Rydyn ni wedi gwneud nifer o newidiadau sylweddol, yn cynnwys gosod gorsaf hylendid wrth y drws, canllawiau pellter 2 fetr ar lawr y siop a sgrin persbecs o amgylch yr ardal dalu. Gan symud gyda’r oes, rydyn ni’n falch iawn o allu derbyn pob taliad cerdyn a thaliadau Apple Pay, a byddem yn annog taliadau digyswllt. Bellach rydyn ni’n derbyn taliadau mewn arian parod hefyd. Gallwch chi hefyd archebu ar-lein a dewis i godi’n lleol os ydy’n fwy cyfleus i chi.

Cefnogwch Ein Prosiectau
Pan fyddwch chi’n prynu unrhyw beth o’n siop ar-lein, bydd 100% o’r holl elw yn cael ei ailfuddsoddi yn ein menter gymdeithasol.

Cefnogwch Ein Prosiectau
Pan fyddwch chi’n prynu unrhyw beth o’n siop ar-lein, bydd 100% o’r holl elw yn cael ei ailfuddsoddi yn ein menter gymdeithasol.
Mae Hippy Shop RainbowBiz yn siop hyfryd yng nghanol yr Wyddgrug sy’n cynnig detholiad enfawr o ddillad lliwgar ac unigryw, ffyn arogldarth, conau a’u dalwyr, llosgwyr olew, lampau halen, Bwdas, gemwaith, rhoddion gothig a chyfriniol a llawer mwy. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn ehangu ein hystod o gerrig treiglo a chrisialau.
Fe gewch groeso cynnes yn ein siop, ac mae’r staff bob amser yn barod i helpu. Galwch heibio am sbec am fod ein stoc yn newid bob wythnos wrth i archebion newydd gyrraedd. Mae llawer o eitemau untro ar gael ac yn sicr llawer o eitemau unigryw i ddewis ohonynt. Rydyn ni hefyd yn cynnig talebau rhodd gwerth £10 i’w defnyddio yn y siop.
Mae tudalen Facebook actif iawn gennyn ni yma. Gallwch wylio fideos byw o’r siop a gweld llawer o luniau o’r stoc bob dydd. Mae ein tudalen Instagram ar gael yma ac mae ein dilynwyr ar-lein yn tyfu bob dydd.
Oriau Agor
Llun – AR GAU
Mawrth – AR GAU
Mercher – 10am-4pm
Iau – 10am-4pm
Gwener – 10am-4pm
Sadwrn – 10am-4pm
Sul – AR GAU