
Garddio’r Glannau
Pwy Ydyn Ni?
Mae Garddio’r Glannau’n brosiect garddio cymunedol yn Sir y Fflint sy’n cyfarfod bob dydd Mawrth rhwng 1pm a 3pm. Mae croeso i bawb ymuno â ni.
Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. I gael rhagor o fanylion am Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ewch i: https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/about
Mae Garddio’r Glannau yn brosiect garddio sy’n rhedeg yn Sir y Fflint, Gogledd Cymru. Rydyn ni’n cefnogi rhai o aelodau mwyaf bregus y gymuned sydd eisiau dysgu sgiliau newydd a mwynhau bod allan yn yr awyr iach gyda phobl eraill o’r un anian. Caiff yr holl offer, cyfarpar a lluniaeth eu darparu. Codir tâl o £5.00 y pen am bob sesiwn. Am ddim i ofalwyr.


Cymryd Rhan
Ble Ydyn Ni?
Rhandiroedd Mill Lane
Mae gennyn ni ein llain gymunedol ein hun yn Rhandiroedd Mill Lane (CH5 4HF) ble rydyn ni’n tyfu llawer o lysiau a pherlysiau o had, gan annog bywyd gwyllt, pryfed a gwenyn.
Mae hwn yn llecyn gwyrdd hyfryd, ac rydyn ni’n annog mwy o bobl leol i ymuno â’n prosiect garddio cymunedol ac i ddefnyddio’r ardal yn ystod y dydd.
Hwb Cyfle
Drwy fisoedd y gaeaf, rhwng mis Tachwedd a Chwefror, mae’r grŵp yn gweithio gyda’r elusen genedlaethol Home Farm Trust (HFT) ac yn helpu i gynnal a chadw eu llefydd awyr agored o amgylch eu hadeilad yn Sir y Fflint, Hwb Cyfle.
Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i ni gyflwyno mwy o sesiynau crefftau a gweithdai y tu allan i’r prif dymor tyfu.
Rhandiroedd Mill Lane
Hyb Cyfle
Dysgwch Fwy
Weithiau gallwch deimlo ychydig yn anesmwyth wrth ymuno â grŵp newydd, felly mae croeso i chi ein ffonio ni i sgwrsio am beth rydyn ni’n wneud yn Garddio’r Glannau gyda hwylusydd y prosiect, Sarah. Bydd hi’n fwy na bodlon rhoi mwy o wybodaeth i chi am y prosiect a beth mae’r grŵp wedi’i wneud gyda’i gilydd dros y blynyddoedd.
Rhowch ganiad i Sarah ar 07759 753 473 am sgwrs neu cysylltwch. Or complete your details below and we will call you.

Dysgwch Fwy
Weithiau gallwch deimlo ychydig yn anesmwyth wrth ymuno â grŵp newydd, felly mae croeso i chi ein ffonio ni i sgwrsio am beth rydyn ni’n wneud yn Garddio’r Glannau gyda hwylusydd y prosiect, Sarah. Bydd hi’n fwy na bodlon rhoi mwy o wybodaeth i chi am y prosiect a beth mae’r grŵp wedi’i wneud gyda’i gilydd dros y blynyddoedd.
Rhowch ganiad i Sarah ar 07759 753 473 am sgwrs neu cysylltwch.
Y Cyfryngau Cymdeithasol
Rydyn ni’n rhoi diweddariadau rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol. Chwiliwch amdanoch eich hunain mewn llun, neu gwnewch sylw neu rannu’n postiadau gyda’ch ffrindiau i helpu i ledaenu’r gair am Gwyrddio’r Glannau. Prosiect garddio cymunedol i bawb. Ewch i’n Tudalen Facebook yma i weld llawer o luniau a fideos am y prosiect.

Digwyddiadau i Ddod
Cymryd Rhan
Mae RainbowBiz CIC, sy’n Fenter Gymdeithasol yn Sir y Fflint, bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr ac unigolion yn y gymuned sydd ag amrywiaeth o sgiliau er mwyn sicrhau bod tîm cynaliadwy o bobl o’r un anian sydd eisiau rhannu syniadau, rhedeg gwahanol brosiectau a chodi arian er lles y gymuned leol.
Cysylltwch â ni os hoffech chi gymryd rhan yn unrhyw ran o’n gwaith.