Cerdded Er Lles
Pwy Ydyn Ni?
Mae ein grŵp Cerdded Er Lles yn grŵp cerdded hamddenol sy’n cyfarfod bob dydd Mawrth, rhwng 10am a 12pm. Mae croeso i bawb ymuno â ni.
Mae’r grŵp cerdded hwn yn cyfarfod o amgylch Sir y Fflint, Gogledd Cymru. Rydyn ni’n cefnogi rhai o aelodau mwyaf bregus y gymuned sydd eisiau gwneud ffrindiau newydd ac sy’n mwynhau bod allan yn yr awyr iach gyda phobl eraill o’r un anian. Rydyn ni’n darparu teithiau tywys hygyrch o amgylch ardaloedd bendigedig ac yn gorffen gyda chinio ysgafn a lluniaeth, sy’n cael eu darparu. Codir tâl o £5.00 y sesiwn i gyfranogwyr. Am ddim i ofalwyr.

Cymryd Rhan
Ble Ydyn Ni?
Glannau Dyfrdwy
Mae’r grŵp yn cyfarfod mewn gwahanol leoliadau yn ardal Glannau Dyfrdwy, yn cynnwys Parc Wepre a’r llwybrau beic lleol o amgylch Afon Dyfrdwy. Mae’n rhaid i chi gadw lle ar y prosiect hwn ymlaen llaw, oherwydd gall y lleoliadau newid yn ôl rhwyddineb mynediad a’r tywydd.
Wepre Park
River Dee
Dysgwch Fwy
Weithiau gallwch deimlo ychydig yn anesmwyth wrth ymuno â grŵp newydd, felly mae croeso i chi ein ffonio ni i sgwrsio am beth rydyn ni’n wneud yn ar ein teithiau cerdded, gyda hwylusydd y prosiect, Sarah. Bydd hi’n fwy na bodlon rhoi mwy o wybodaeth i chi am y prosiect a beth mae’r grŵp wedi’i wneud gyda’i gilydd dros y blynyddoedd.
Rhowch ganiad i Sarah ar 07759 753 473 am sgwrs neu cysylltwch.

Y Cyfryngau Cymdeithasol
Rydyn ni’n rhoi diweddariadau rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol. Chwiliwch amdanoch eich hunain mewn llun, neu gwnewch sylw neu rannu’n postiadau gyda’ch ffrindiau i helpu i ledaenu’r gair am Cerdded Er Lles. Prosiect cerdded cymunedol i bawb.
Ewch i’n Tudalen Facebook yma i weld lluniau a digwyddiadau am y prosiect cymdeithasol hwn.

Digwyddiadau i Ddod
Cymryd Rhan
Mae RainbowBiz CIC, sy’n Fenter Gymdeithasol yn Sir y Fflint, bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr ac unigolion yn y gymuned sydd ag amrywiaeth o sgiliau er mwyn sicrhau bod tîm cynaliadwy o bobl o’r un anian sydd eisiau rhannu syniadau, rhedeg gwahanol brosiectau a chodi arian er lles y gymuned leol.
Cysylltwch â ni os hoffech chi gymryd rhan yn unrhyw ran o’n gwaith.